Dwi chydig yn araf efo hon, ond mi wnaeth y stori am yr holl fariwana cafodd ei ddympio ar ffarm yn Nant Ffrancon wneud i fi wenu.

Roedd y ffarmwr druan yn bryderus dros ei anifeiliad, petai nhw wedi bwyta'r gwair gwirion.

Os felly, ydi o'n poeni am yr holl fajic myshrwms mae'r gwarthaig a'r defaid yn mynshio bob blwyddyn? Sdim rhyfedd bod ganddynt lygaid fel soseri!

Gol: Diolch i Rhys am yr ysbrydoliaeth

Labels: ,

2 Sylw:

  • Blogger Nwdls, 1:03 pm  

    Oedd roedd honno'n un da!

  • Blogger Rhys Wynne, 1:17 pm  

    Odd y ffarmwr ar Radio Cymru'n dweud bod y ffôn wedi bod yn canu non-stop gyda pobl Pesda'n holi os allen nhw ddod draw i pick your own

Clicia i ychwanegu sylw.

I'r dudalen flaen.