Hunllef

Wrth ddilyn hysbyseb ar maes-e, ddeshi ar draws gwefan Cowbois.

Be geshi oedd miwsig Caban yn blerio heb ddim ffordd i'w ddiffodd, a'r testun yn <blincio> arna i.

Nid oes rhaid dweud i mi adael yn syth...

Labels: ,

3 Sylw:

  • Blogger Rhys Wynne, 5:18 pm  

    MI nath y blincio yna frifo fy llygaid i go iawn. Am ryw reswm mae gwefannau Cowbois wastad yn wael.

    Dwi'n siwr byddent yn gwneud ffortiwn petai nhw'n buddsoddi mewn gwefan call ac yn galluogi pobl i weld a phrynnu eu cynnyrch ar-lein.

    - beth am droi dy speakers ffwrdd!

  • Blogger Huw, 3:43 am  

    Mae fel petai rhywun wedi cael hwyl efo cynhwysion Frontpage Express. Yr mantais yn ôl ym 1999, yr oedd modd clicio ar Stop i cael gwared ar unrhyw ffeil MIDI yn chware.

  • Blogger Mei, 3:11 pm  

    Mae'n bechod achos mae'r cynyrch yn dda ac o safon. Fysa buddsoddi yn siwr o wneud synwyr busnes. Hyd yn oed hacio rhywbeth allan o Zen Cart.

    Dwi'n gwisgo headphones yn y gwaith felly di troi nhw ffwrdd ddim yn opsiwn. Dwi wedi bod i filoedd o wefannau flash lle mae'r opsiwn 'off' yn blaen, ond wedyn nid oedd y gerddoriaeth mor uffernol o uchel ar yr un ohonynt.

    Biti na fysa nhw'n sylweddoli am y tag <blink> redundant.

Clicia i ychwanegu sylw.

I'r dudalen flaen.