Urban Myths

Eshi ar noson stag fy mrawd yng nghyfraith i Ynys Manaw tua tair wythnos yn ôl.

Tra yna cododd y stori am y boi aeth i Amsterdam efo'i fets, a ddiweddodd fyny ar lwyfan gyda dyn du yn neud pethau ofnadwy iddo fo. Roedd rhai yn taeru bod y stori yn wir, a bod y boi dal yn 'sbyty yn ceisio dod dros y peth.

Felly eshi ar snopes.com ar ôl dod nôl i weld os oedd 'na unrhyw beth yna fysan awgrymu mai urban myth oedd o. Gan na ddarganfyddais i ddim, dyma fi'n ysgrifennu i'r wefan a adrodd y stori.

Geshi ateb nol bron yn syth, yn dweud mai variant o stori arall ydi o. Mae hi wedi ychwanegu fy ebost i at y dudalen, felly cliciwch i'w darllen.

Labels: ,