Pa Bizza?

Mae hwn yn rwbath sydd wedi bod yn nocio rownd yr hen ben 'ma ers talwm, felly mae'n amser i fi neud rwbath efo fo.

Ystyried o'n i pan yn disgwyl am bizza yn y têc awe ym Mangor ucha un noson. Be fysa'r mwya? Un 12" ta dau 6"?

Be am sbio ar y maths?

Y fformiwla am arwynebedd cylch (gan gymryd yn ganiataol bod y dyfnder yr un peth) yw πr2, lle r yw'r radius.

Felly i'r 12":

π × 62

neu

π36

A dau 6":

2 × π × 32

neu

π18

Mae'n ymddangos bod un 12" ddwywaith yn fwy na dau 6". Os ti efo ffrind ac am gael un 6" yr un mewn siop bizza, ella sa'n well i chi gytuno ar topping a cael un 12".

Labels: ,

4 Sylw:

  • Blogger Llefenni, 9:39 am  

    Ti di bod yn darllen Blog Martin Lewis eto neu be Mei?!

    http://blog.moneysavingexpert.com/

    ;-)

  • Blogger Nwdls, 10:53 am  

    Gai di fwy o grwstyn ergo llai o topping ar ddau 6" 'efyd. Ddim yn dda.

    Ydi dau 9" yn fwy na un 12" ddo? Gan gymryd i ystyriaeth mitigating factor y crwst estynedig.

    Ma comon sens yn deud fod dau 9 yn fwy, ond ydio wir?

    Mond Bangor Ucha dwi di gweld 6" (ooer, musus). Llawer rhy fach i lenwi bola. D

  • Blogger Mei, 5:55 pm  

    Anghofia comon sens, jyst maths oer:

    2 × π × 4.5 × 4.5

    neu

    π40.5

    Felly ti well off o ~12%. Os ydi'r pris yn adlewyrchu hynny, dos am ddau 9".

  • Blogger Mei, 5:56 pm  

    O, a mond ym Mangor Uchaf dwi'n neud fy siopio pizza, felly dyna pam...

Clicia i ychwanegu sylw.

I'r dudalen flaen.