Chris Cope o Flaen fy llygaid

Chris Cope ar O Flaen dy Lygaid
Dwi newydd rhoi switch off i'r rhaglen am Chris a Rachel yn symud i Gymru.

Rhaglen dda wnaeth i mi feddwl fwy am sut beth fysa codi pac a symud i rhywle hollol randym.

Yr argraff fwyaf geshi o'r rhaglen oedd ymroddiad Rachel i benderfyniad Chris i droi popeth ben i lawr a symud yma. Dwi'n llawn edmygedd iddi ei gefnogi gan roi ei swydd i fyny am ddyfodol ansicr iawn mewn gwlad ddierth a gwahanol.

Ond o'n i'n siomedig o glywed nad oedd Chris druan wedi cael llawer o groeso gan ei gyd-fyfyrwyr ar y cwrs.

Dwi'n falch bod 'na bobl callach o gwmpas sydd wedi dangos mai nid basdads sych ydan ni gyd, a rhoi croeso cynnes iddyn nhw'n dau.

Roedd gweld yr ups & downs yn ddiddorol, ac roedd gen i a Catrin drueni drosto pan yn anobeithio cyn y Nadolig, ond yn falch i weld y penderfynrwydd yn dychwelyd yn y flwyddyn newydd.

Pob lwc i'r ddau am y dyfodol. Neshi fwynhau y rhaglen yn fawr a mae'n bechod bod o wedi rhoi fyny ar ei freuddwyd o fod yn Gymro. Iesu - os deith o i dre a deud bod o o Gaerdydd fysa 'na neb callach!

Labels: ,