Gwychborwr

Mae Splasho.com wedi penderfynu gweld beth fydd yn digwydd os bydd y 100 estyniad mwyaf poblogaidd yn cael eu gosod ar Firefox.

Dyma'r union math o wastraff amser dwi'n mwynhau.

Dyma'r dudalen yma, ynghyd â delwedd o'r porwr.

Mae werth gweld ei ddewislen clic-dde hefyd.

In yddyr niws...

Dwi ar ddiwrnod gwaith olaf yn KL. Disgwyl ymlaen i fynd adra nos fory.

Ethon ni i Chinatown neithiwr, i Stryd Petaling - y farchnad fwyaf nyts dwi rioed wedi gweld. Geshi a Ian beint mewn restoran Tseiniaidd. Ar ôl rhyw ddeg munud roedd cyffro mawr, a rhuodd car mawr du a stopio o'n blaenau. Neidiodd y boi allan o'r car a scramblodd llwyth o hogia allan o'r adeilad dros ffordd a taflu bocys fewn i fwt y car, cyn dreifio ffwrdd efo'r corn yn canu. Roedd y gwerthwyr eraill yn cuddio'i bagiau Prada/Gucci/Luis Vuitton a rhai yn rhedeg lawr y stryd gyda chartiau yn llawn orwyr (be ff*c ydi'r lluosog o oriawr?).

Yn amlwg roedden nhw wedi cael tip off gan yr heddlu, felly roeddem yn disgwyl toman o gopars Malay i droi fyny. Daeth neb yn y diwadd, ond roedd o'n sbort i wylio (ond roedd na geir cops a sirens yn pasio yn y pellter). Doedd yr un ohonom efo camera i gofnodi hyn chwaith, sydd yn anffodus, ond roedd Alice wedi cael chydig o fideo. Ella bydd o ar y we yn fuan.

Lysh gachu wedyn mewn bar 'rege' oedd yn chwara cerddoriaeth boblogaidd o'r wythdegau. Hmm.

Ethon ni am fasâj wedyn. Blydi hel, dwi'n teimlo'n waeth nac ar ôl gem rygbi. Ma' nghefn i yn stiff uffernol, ond mewn ffordd dda. Dyn nhw ddim yn malu cachu fama fel ma' nhw'n neud adra. Dwi 'di cael masâj adra, ac roedd fod i ymlacio. Fama ma nhw'n sortio chdi allan, laic it or not. Roedd o'n defnyddio'i benelin ar un pwynt, fel y backbreaker gynt o WWF. Udodd y boi ar ol gorffan "You very stress".

Fory 'da ni am ailymweld â'r ogofau Batu. Doedd 'na ddim gobaith o fynd fewn yn ystod Thaipusam oherwydd y miloedd o bobl, felly gobeithio bydd fory'n dawelach. Mae'r tu fewn fod yr un maint a chae peldroed rygbi. Bydd y lluniau ar fflicr (ond mwy na thebyg ar ôl mynd adra).

Dwi 'di cael fy nhagio hefyd, felly mae'r 4peth ar ei ffordd (os nad allan yn barod: clicish i ar publish yn lle draft gyna). Fel udodd Rhys "A'i dyma'r pinicl?".

Hefyd cyming yp, yr erthygl cyntaf ar ddylunio i'r we (wrth gwrs, nid yr un cyntaf erioed, ond yr un cyntaf ar y blog hwn. Duh).