Lawr a'r Sais!

Neis gweld rhywun yn siarad yn blaen am chenj. Simon Davies, chwaraewr midffild Cymru sy'n gwynebu'r Saeson ddydd Sadwrn yn siarad ar wefan y BBC:
I don't ever want to see England do well - the last thing I want is England winning the World Cup.

Anything we can do to stop England we will do it - especially as I will never hear the end of it if they win.
Pob lwc iddyn nhw ddydd Sadwrn.

Acenion yr Americanwyr

Safle diddorol iawn y rhaglen "Do you speak American?" oedd wedi'i dangos ar y rhwydwaith PBS.

Chwilio o'n i am esiamplau o ddefnydd y rhaglen Macromedia Director (dwi'n dechrau ar gwrs yn fuan, ond mwy am hynny eto).

Mae'r gem Flash werth ei chwarae, mae'n rhoi blas (fach iawn) ar sut mae pobl o wahanol rannau o'r wlad yn yngannu rhai geiriau/llythrennau.

Storis Saeson

Pan o'n i'n gweithio dramor, un ffefryn oedd "Everytime you walk in a pub in Wales, everyone starts speaking Welsh!".

Yn naturiol roedd hyn yn mynd dan fy gnhroen yn uffernol. Mae un arall wedi'i weindio am hyn, ond sy'n gallu mynegi'i hun llawer gwelll na fi.

Troi'n Frown

Wedi dychwelyd o Ffrainc.

Gwyliau gret: wedi bod i Arradon yn Llydaw, Biscarosse yn ne Ffrainc ac yna i Normandie i weld traethau D-Day. Bydd y lluniau ar Flicr yn fuan.

Chwalfa o 'Steddfod hefyd. Y gorau eto. Fel bod yn 18 eto, ond heb y merchaid a'r cyffuriau ysgafn wrth gwrs.

Wedi cael gweld hen ffrindiau a cyfarfod a pobl newydd, llwyddiannus iawn unwaith yn rhagor.

Steddfod Steddfod!

Da ydi cael bod ynghanol bwrlwm yr wyl genedlaethol unwaith eto. Dwi di methu'r steddfod yn y blynyddoedd ddiweddar oherwydd gwaith, felly mae'n gret cael smalio bod yn 18 eto.

Eshi i Gofi Roc nos Lun i weld Gwyneth Glyn, Gwilym Morus, Alun Tan Lan a Tecwyn Ifan. Methu mynd allan neithiwr, o'n i isho mynd i Amser/Time i weld Drymbago a Ummh ond dyna ni. Am fwyd heno gyda'r teulu (Roc n Rol!), ond ella fedrai miglo'i i'r Fic yn Feliheli am un neu dri. Cwis yn Jocks Bar nos fory, yna ymlaen ond dim cynlluniau penodol. Pictwrs yn y pyb yn gynar nos Wener, ac yna dwi'n stiwardio yn Clwb Haven gyda noson y Jocars.

Chwalu pen nos Sadwrn wrth gwrs.

Wedyn i Ffrainc am bythefnos!