Rhybudd ar y tiwb

Uffar o lun ar flog Guto Ffowc yn dangos arwydd ar blatfform Notting Hill ddoe.

Ond beth os da chi'n edrych yn "a lot foreign" ydy hynny'n iawn felly?

Dosbarth.

Drwgdybiaeth ar y tiwb

O wefan y BBC, erthygl ar sut mae digwyddiadau erchyll diweddar yn Llundain yn cael effaith ar ymddygiad bobl ar y tiwb.

Mae'n gwneud i mi ofyn "be fyswn i'n gwneud?".

Mae'r erthygl yn nodi hefyd yr amharodrwydd i wrando ar iPod neu gyffelyb rhag ofn i'r gwifrau ddanfon arwyddion camarweiniol, ond hefyd rhag ofn peidio â chlywed gorchmynion gan yr heddlu.

Storis ma dy fam yn deud

Oce, 'di Mam dim yn deud storis fel hyn, ond ma' nhw reit debyg i be' ma Mamgu yn galu mwydro am...

Gallows Humour o'r ward seiciatryddol

Wrthi'n darllen Bonfire of the Insanities, blog o Awstralia gan nyrs sy'n gweithio mewn ysbyty meddwl.

Hiwmor tywyll iawn, wedi'i ysgrifennu'n dda ac yn cael ei ddiweddaru'n aml.

Dyma esiampl dda o'r math o negeseuon.

.cw

Trafodaeth ddiddorol ar maes-e.com ynglyn â ymgyrch i gael parth lefel uchaf i Gymru, neu top level domain.

Y syniad sy'n cael ei gynnig yw .cw, er engraifft www.mei-felinheli.cw. C am Cymru a W am Wales.

Syniad da dwi'n meddwl, ond ddim mor hawdd a mae'n swnio. Fel mae Dafydd yn dweud ar maes-e, mae angen trefniadaeth i'w redeg yn effeithlon. A hefyd dwi'n meddwl y dylai'r ymgyrch gysylltu a gweithio gyda ymgyrch debyg yn yr Alban, neu mi eith hi i nunlla.