Yr Etifedd

Y Mab

Wel o'n i'n hollol rong. Cymrodd Brychan tan neithiwr i gyrraedd, megis yr Ymerawdr, union 48 awr ar ôl y contraction cyntaf nos Fawrth.

Doedd y 36 awr cyntaf ddim yn ddrwg, ond roedd y 12 olaf yn hunllefus.

Ond ta waeth, mae o yma rwan a mae o'n iawn.

Stats: 3.66kg, neu 8 lb 1 oz. 52cm o hyd, sydd 2cm hirach na'r cyfartaledd (suprise suprise...).

Dyma fo yn ceisio byta'i fysedd.

Poen

Dechreuodd y contractions neithiwr am 11.00yh, a ma' nhw wedi bod yn eithaf cyson ers hynny. Profiad rhyfedd oedd gwylio Amanda Donohoe yn prancio rownd ynys yn noeth am 2yb tra roedd Hi yn griddfan.

Hyd yma 'da ni dal adra yn disgwyl i bethau fynd yn waeth. Dwi'n meddwl bydd o'n glanio o gwmpas hanner nos heno.

Dwi felly 'di cael rhyw 3 awr o gwsg yn y 36 awr diwethaf, a dwi'm yn siwr faint fyddai'n cael heno.

Rhaid mynd - mwy o weiddi!

Blogio Gwleidyddol

Mae'r blogiwr torïaidd blaenllaw Iain Dale, yn rhoi rhestr eithaf cynhwysfawr o'r blogs gwleidyddol Cymraeg. Wedi deud hynny, mae o dal yn lincio i NatWatch...

Byd Newydd

Os wyt ti'n un o'r rheina sy'n hoff o wneud poen ar eu hunain, fydd hwn yn uffar o durn on.

Peter Andre a'i annwylyd yn canu 'A Whole New World'.

Ma' Peter yn crap, ond ma big J yn boenus o wael.

Mae o'n swnio fel spoof, a dyna di'r lein ma'r cwpwl hoffus yn cymryd, ond mae o dal werth i'w wrando.

IE7

I geisio ymateb i'r bygythiad mae Firefox wedi gwneud i fyd y porwyr, mae Microsoft wedi rhyddhau fersiwn 7 o'u porwr poblogaidd, Internet Explorer 7.0.

Fel dwi wedi efengylu yn y gorffenol, Firefox yw'r porwr dwi'n ei ddefnyddio pob dydd, ac mae MS wedi ceisio dod a IE7 i'r un gynghrair.

Mae'n gallu defnyddio tabiau, darllen RSS a mae gwell diogelwch rhag feiryses, malware ayyb.

Er nad ydw i'n keen ar feddalwedd Redmond, dwi am gadw meddwl agored am hwn. Dwi wedi clywed nad ydi'r gefnogaeth CSS* mor gyfansawdd รข Firefox, Safari et al, ond amser a ddengys.

Os bydd o'n cymryd lle IE6 fel y porwr mwyaf poblogaidd mi fydd o'n gwneud fy mywyd i'n haws, o leiaf.

*Oes na gyfieithiad gwell i 'CSS Support'?

Chwilio efo attitude

Mae Gwgl yn gallu bod yn, wel, chydig yn llywath weithia.

Os tisho chwiliad mwy punchy, gofynna i Ms Dewey.

D-Day

Mae heddiw yn ddiwrnod eithaf pwysig. Na, dim oherwydd ei bod hanner ffordd drwy'r wythnos, ond am fod y babi fod i'w gael ei eni.

Ond dos na'm arwydd ohona fo'n cyrraedd. Os dio rwbath fel fi, fydd o'n wythnos a hanner arall cyn cyrraedd.

Ta waeth, mae'n o'n bownd o ddod rwbryd. Watch this space (a Flickr a youTube, wrth gwrs).

Blog dwi'n darllen ers sbel ydi Bad Science gan Ben Goldacre. Mae o'n cyhoeddi ei golofn Sadwrnol yn Y Grauniad ar y blog (sy'n handi pan dwi heb ei brynnu), ond hefyd mae o'n le iddo rantio am y pseudoscience sydd yn y papurau newydd y dyddiau yma.

Mae o newydd lawnsio ei think tank newydd, Newton's Apple, i geisio cael safon uwch o newydddiaduriaeth wyddonol yn y cyfryngau, yn hytrach na'r 'Scientists discover formula for best way to eat ice cream'
ayyb sydd i'w weld yn aml.
During the crucial two days after the GM 'Frankenstein Foods' story broke in February 1999, for example, not a single one of the news articles, opinion pieces or editorials on the subject was written by a science journalist. Only 17 per cent of all the feature articles were written by science journalists.


A gan ei bod yn Wobrwyon Machinima fis nesaf, mae'n werth gwylio'r teaser ar wefan Anturiaethau Bill a John. Gret.

XXX Nostalgia

Pan yn fychan o'n i wrth fy modd yn gwylio anturiaethau criw Saved by the Bell ar fore Sadwrn.

Felly gelli ddychmygu fy sioc o weld bod Dustin Diamond, oedd yn chwarae rhan yr hoffus Screech, yn ymuno â'r un gyngrhair â Pharis Hilton drwy ryddhau ei fideo budur ei hun, Screeched.

Er nad oedd yn amlwg ar y rhaglen, mae talentau Dustin yn ymestyn yn bellach nag actio.

Mae hwn yn saff i'r gwaith, ond efallai nid i'r meddwl...