I chi sydd efo tair mlynedd werth o luniau, fideo a ffeiliau ar ddisgen galed sy'n mynd i farw unrhyw ddiwrnod, fel ym...myfi, mae tudalennau The Tao of Backup yn actio fel sbardun i wneud rhywbeth am y peth.

Off i Dabs rwan i brynu NAS.

Mwy o gariad na bws llawn hipis



Mae John Oxton, y dyluniwr gwe, wedi rhyddhau ei ddyluniad enwog 'Bus Full of Hippies' ar drwydded Creative Commons.

Felly mae'r cynllun ar gael i'w ddefnyddio gan unrhywun ar ei flog, heb gael e-bost dilornus gan John am ddwyn ei waith.

Mae'r templad ar gael fel tudalennau HTML a CSS, ac fel templad i flog Textpattern.

Dylunio a CSS

Clawr Transcending CSS
Mae un o'r dylunwyr gwe enwocaf, Andy Clarke, wedi rhyddhau ei lyfr cyntaf, Transcending CSS: The Fine Art of Web Design.

Gan bod gymaint o lyfrau technegol i helpu gyda dysgu CSS ar gael, Mae Andy wedi creu llawlyfr i'r dylunydd creadigol hwnnw sydd heb y sgiliau i ysgrifennu côd, ond sydd am greu campweithiau heb adael i'r diffyg gwybodaeth amharu ar y dyluniad terfynol.

O Loegr yn wreiddiol, mae Andy yn byw a gweithio ger Y Rhyl. Mae'n rhedeg y cwmni dylunio Stuff and Nonsense (a ddyluniodd gwefan Tractors Emyr Evans!), yn cadw'r blog poblogaidd And All That Malarkey, ac yn siarad am CSS a Dylunio mewn cynhadleddau dros y byd.

Teklyn kool Kuler

Mae Adobe Labs wedi rhyddhau dyfais glyfar i gynorthwyo dylunio cynllun lliw.

Mae Kuler wedi'i adeiladu yn Flash, ac mae posib creu thema drwy ddewis un lliw, ac yna dewis rheol: Analogous, Monochromatic, Triad, Complimentary, Compound a Shades. Bydd Kuler yna'n cynhyrchu'r lliwiau eraill i gyd fynd a'ch gwreiddiol.

Wedi dewis lliw a rheol, mae posib wedyn i wneud newidiadau i'r rheol er mwyn cael thema union. Ac os nad ydi un o'r rheolau'n plesio, mae'n bosib gwneud rheol bersonol.

I gadw popeth yn Web 2.0aidd mae posib cadw'ch cynllun lliw, ei rannu a edrych ar gynlluniau mae eraill wedi'u cynhyrchu. Bydd rhaid cael cyfrif â Adobe i wneud hyn.

O'n i'n arfer defnyddio Color Schemer Online, ond Kuler fyddai yn mynd at tro nesaf.

CD Newydd Siwan Llynor

Bydd Siwan yn lawnsio'i CD newydd, Plu'r Gweunydd, heno yn Galeri Caernarfon, am 7.30. Cyflwynir y noson gan Gwion Hallam, yng nghwmni Côr Cyntaf i'r Felin.

Gellir gwrando ar rai traciau, a prynu'r CD ar ei gwefan siwanllynor.co.uk.

Awe 'fo'i ynde!

Big=good

Screenshot o flog ModernLifeIsRubbish.co.uk

Dwi'n darllen nifer fawr o flogs am ddylunio a datblygu i'r wê, ac felly dwi'n dod ar draws nifer o ddyluniadau diddorol.

Un sydd wedi gwneud argraff yw ModernLifeIsRubbish.co.uk, sef presenoldeb electronig Stuart Brown, dyluniwr a datblygwr llawrydd o Fanceinion. Mae ei erthyglau yn bennaf am dadtblygu i'r wê, yn rhai graenus, ac wedi'u hysgrifennu yn wybodus ond y dyluniad dwi'n hoff o fwyaf.

Mae wedi mynd a'r trend ffonts mawr Web 2.0 i'r eithaf, gan ddefnyddio Georgia 44 pwynt fel pennawdau (a defnyddio'r pseudo-elfen :first-line yn gelfydd).

Mae'r wefan yn esiampl wych o'r hyn sy'n bosib gwneud â CSS, a heb ddibynnu gormod ar Photosiop.

Microsoft goes open source

Geshi sioc y diawl pan welish i bod MS wedi cymryd côd sanctaidd Mozilla a rhyddhau MSFirefox.

Mae'n cynnig gwasanaethau chwilio gwell (MSN Search) a diogelwch rhag meddalwedd all amharu Windoze, fel McAfee neu Symantec.

Buddigoliaeth yr Achentwyr

Fethish i wylio'r gem dros y penwythnos, felly dyma rhai o'r darnau gorau.

Does dim gwell na gweld "England rugby" a "total shambles" yn yr un frawddeg...



Lloegr vs Arianin

Explosive

Glywsoch chi am yr idiot sticiodd roced fyny'i dîn?

Roedd raid i John Marsh, Radio 2, ddarllen y stori newyddion.

Simpsons go iawn

Na, dim fi ar ôl cael plentyn, ond Dan Castellaneta a Harry Shearer yn siarad â Conan O'Brien.



via YouTube.