Cais?


Llongyfarchiadau i De'r Affrig am ennill Cwpan Rygbi'r Byd 2007.

Wrth gwrs mae rhai yn awgrymu bod penderfyniad y Dyfarnwr Teledu yn anghywir. Dyma bedair ffram o'r fideo. Mae troed Cueto yn cyffwrdd y llinell yn yr ail a'r drydedd, a mae'r bel lawr yn y bedwaredd.



Dyma'r fideo cyfan:



via YouTube.

Labels:

How to Win Friends and Influence People


Newyddion da i bawb sy'n siarad yn blaen a galw rhaw yn dwat, mae Prifysgol Dwyrain Anglia wedi cyhoeddi ymchwil sy'n awgrymu bod rhegi yn y gweithle yn beth da.

Gall y defnydd o "iaith anghonfensiynol ac anwaraidd roi ryddhad emosiynol a bod yn ffordd effeithiol o hyrwyddo perthynas cymdeithasol ag eraill".

Mwy gan El Reg.

Labels:

Amazon yn copïo'r Daily Meil


Yn fuan wedi ail-lawnsiad o ddyluniad newydd y Daily Meil, mae Amazon yn gwneud yr un peth.

O'r diwedd penderfynodd rhywun bod y golwg 1998 ella mynd braidd yn hen, ac wedi talu rhywun i wendu o edrych yn well.

O'r olwg gyntaf, dwi yn ffan. Gobeithio bydd y wefan mor hawdd i'w defnyddio ag yr hen un.

*O'n i wedi trio cyhoeddi hwn ddydd Gwener, ond nid oedd yr image upload yn gweithio.

Labels:

Firefox i'r ffon

Firefox ar Ffôn

Gyda mwy a mwy o bobl yn defnyddio'r wê drwy eu ffônau symudol, mae Mozilla wedi cyhoeddi eu bod yn datblygu fersiwn o Firefox Mobile.

Mae Opera eisoes yn cynnig porwr i ddyfeisiadau symudol, sydd yn un o'r porwyr gorau i'r sgrin fach.

Mae datblygiadau fel hyn hefyd yn dangos pa mor bwysig yw dylunio gwefannau i safonnau modern. Mae gwefan sy'n defnyddio CSS yn mynd i edrych yn well a lawrlwytho'n gyflymach na gwefan sydd dal i ddefnyddio tables a tagiau font.

Mae hefyd yn dod i'r amlwg mae'r ffôn bydd cyfrifiadur pawb.

(Mae sibrydion bod Google yn lawnsio ffôn symudol rhad ac am ddim [yr iPhone laddwr]. Bydd y ffôn yn defnyddio meddalwedd côd agored, ac yn dod gyda nifer o raglenni.)

Labels: ,