Baniwch o!

Mae gwleidyddion yn aml yn hoff o neidio ar wagon y band, yn aml heb edrych yn ofalus lle byddant yn glanio.

Yn ddiweddar cafodd Jaqui Dean, aelod seneddol Otago yn Seland Newydd, lythyr gan etholwr yn awgrymu i fanio Dihydrogen Monoxide.

Dilyna'r linc i weld be ddigwyddodd.

Labels:

Daily Meil Newydd

Dwi'n falch i ddadorchuddio fersiwn 4 o'r Daily Meil.

Y cefndir yw golygfa o Moel Cynghorion o lwybr Llanberis fyny'r Wyddfa.

Nid yw'n edrych yn iawn yn Internet Explorer 6 eto - ond tyff, rhaid i chi ddisgwyl neu defnyddio porwr call.

Beth am adael sylw i ddweud sut mae'n cymharu a'r llall?

Labels:

RSS Rygbi Cymru

Mae URC yn cynnig ffrydau RSS o'u gwefan newydd (sydd o'r diwedd wedi cael gwared o'r splash page hynod annoying) gyda newyddion cyffredniol a newyddion am y tim cenedlaethol yng Nghwpan y Byd.

Nid yw'r ffrwd CyB yn gweithio (eto?), ond mae'r ddau ar gael ar dudalen RSS yr undeb.

Labels: , ,