Wufoo

Mae ffurfleni HTML yn ran anatod o'r wê. Faint o ffurfleni'r wythnos wyt ti'n eu llenwi? Mae angen ffurflen i ymuno, i adael sylwadau, i ofyn am rhywbeth ayyb ayyb.

Yr hasl efo ffurfleni ydi eu hadeiladu. Heb son am fod angen siarad HTML, mae hefyd angen cysylltu i fâs–data, gwiro’r wybodaeth a'i brosesu.

Felly i'r rhan fwyaf o bobl, mae Wufoo yn cynnig gwneud hyn i gyd i chi.

Mae adeiladu ffurflen gyswllt, gofrestru neu holiadur yn syml iawn gyda'r rhyngwyneb drag ‘n’ drop mae Wufoo yn ei gynnig.

Gan bod Wufoo yn cynnig cynllun dechreuol am ddim, dwi wedi'i ddefnyddio i gynnig ffurflen gyswllt ar y Daily Meil, sy'n ymddangos yn y bar ochr. Mae Blogger yn system syml, ac mae hyn yn ffordd hwylus o ychwanegu at y blog.

Mae rhagor o esiamplau Wufoo yma.

Labels:

Diwedd DRM

Roedd cynhadledd i'r wasg p'nawn 'ma gan EMI a Steve Jobs (CEO Apple) ynglyn â DRM.

Gyda Jobs wedi galw yn ddiweddar am rhoi terfyn i DRM, roedd disgwyl i'r ddau gyhoeddi ffordd ymlaen i gyhoeddi cynnwys electronig heb DRM - a dyna yn union beth ddigwyddodd.

Cyhoeddwyd bydd EMI yn cynnig eu holl gatalog o gerddoriaeth heb DRM. Y partner cyntaf yn hyn bydd iTunes, gyda traciau yn costio £0.99c. Mae hyn 20c yn fwy na'r cyffredin, ond bydd y ffeiliau o safon uwch, ac felly'n gwell deal (yfmi).

Mae sleidiau o'r gynhadledd ar techCrunch.com.

Labels: