Ailddyfeisiad

Dwi wedi newid yr enw. Roedd yr hen un yn mynd ar fy nerfau ers i fi feddwl amdano gynta, felly hwn di'r gorau dwi di gallu meddwl am hyd yn hyn.

A, na, ni fyddai'n trio dechrau blogio yn ddyddiol. Poetic license.

Mewn cwlwm

Sut aeth y Dolig? Neis iawn, tawel, efo'r teulu ayyb ad nauseum. Ahem.

I chi bondage ffans, dyma wefan ddefnyddiol ynglyn â chlymau.

Defnydd da o Flash hefyd, gyda llaw.

Sut i werthu ar eBay

Y diwrnod o'r blaen welish i cwpwl o betha am pobol yn gwerthu bocsys gwag a lluniau yr X-Box newydd ar eBay.

Heddiw geshi wers ddiddorol ar ffyrdd effeithiol o werthu trwsus lledr.

Ddy Welsh Lebor Parti

Mae'r Blaid Lafur Gymreig, sydd â gweledigaeth i'r Gymraeg o
iaith sydd yn agored i bawb, yn berchen i bawb, nid yn un o iaith sydd yn perthyn i’r elit.

yn rhedeg gwefan uniaeth Saesneg.

Diolch Nic.

ON Yn rhyfedd iawn pan yn 'sgwennu hwn rwan (13.05 ar 12/12/05), nid oeddwn yn gallu cysylltu â gwefan y Blaid Lafur Gymreig, Albanaidd, na'r un Brydeinig. Hmm. Mae'r un Brydeinig i lawr yn gyfan gwbl, ac yn ôl y html dim ond 'LP Holding' sydd ar y dudalen. Od ynde? Diolch byth am cache Gwgl.

Tony Benn

Geshi'r fraint unwaith o giwio tu ol i Tony Benn yng nghaffeteria Ty'r Cyffredin ym mis Mawrth yn gynharach y flwyddyn hon.

Dyma fo yn y Guardian yn siarad synwyr am y sefyllfa niwclear ryngwladol. Diolch byth bod 'na dal bobl fel TB yn cadw'r ddadl yn fyw.

Uncyclopedia

Safwe clyfar yn cymryd y mic allan o wikipedia yw'r uncyclopedia.

Mae'r dudalen War on Terra yn barodi doniol o agweddau Bush et al.

Macs

Wyt ti'n defnyddio Mac, neu, yn waeth, yn gweithio efo pobl sy'n defnyddio Macs?

Os felly, rhaid darllen hwn.

Newid Cyfeiriad

Reit, os fysa gen i $100k yn sbâr a ffansi dilyn y freuddwyd Americanaidd, mi fysa prynu un o'r rhain yn demtasiwn.

O eBay.

Diolch boinboing.

Dim Hipis

O flog John Oxton:

Rhybudd i hipis ar Flickr.