Democratiaeth?


Dyla rhywun esbonio'r syniad i Blaid (Cymru).

Ar eu gwefan newydd gwrando ar GYMRU, mae pleidlais ar garlam yn gofyn a ddylai Cymru gael tîm yn y gemau Olympaidd. Ond ar hyn o bryd dim ond un dewis sydd...

Dwi'n gwbod dwi'n mynd on ac on...

Ond darllenwch hwn, yna cerwch i fama i gael porwr call.

Trist?

Welish i gar bora 'ma efo'r rhif XX05 USB, a dyma fi'n meddwl "Cŵl!".

Ydi hyn yn fy ngwneud i'n sad? Hmm...

Twist newydd ar hen stori

Dwi'n siwr fod pawb yn cofio'r storis erchyll pan yn bifio yn Glan Llyn ayyb.

Dyma un gyda twist fodern iddi.

Hoywon vs Mwslemiaid a Bwyd

Stori ddiddorol o'r Iseldiroedd: gem bel droed rhwng hoywon a mwslemiaid i geisio lleihau'r tensiwn rhwng y ddau grwp. Os 'da chi'n fwslem hoyw, gewch chi chwarae i unrhyw dim, wrth gwrs. Bach yn hen, ond dwi wedi dechrau mewn job newydd a heb gael amser i flogio ers tro.

Ddeshi ar draws gwefan foodie diddorol hefyd. Principa Gastranomica, ac yn ddiddorol iawn yn cael ei redeg gan y dyluniwr gwe Jeremy Keith a'i wraig Jessica.

Llawer o bethau diddorol i'w coginio, bydd raid i fi arbrofi efo rhai o'r rhain adra.

Mae hefyd werth sbio ar wefan Jeremy am ei bortffolio, dwi'n hoff iawn o llawer o'i ddyluniadau.

Cracio'r côd

O dudalen Technoleg y BBC, stori am project i gracio negeseuan a danfonwyd via'r peiriant Enigma yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Ond peth sy'n ecseitio fi yw'r posibilrwydd o ymuno yn yr hwyl, a lawr lwytho'r rhaglen i redeg ar y cyfrifiadur adra.

Wedi gosod y rhaglen ar y peiriant, mae'n cysylltu efo'r server ac yn derbyn settings, ac yn parhau i geisio cracio'r cô yn y cefndir.

Wrth gwrs, mae hyn wedi'i wneud o'r blaen, ond mae hwn ychydig mwy realsistig, efallai.

Balansio cerrig

Wedi cael linc am gyfri Flickr Dave Gorman gan ffrind.

Mae'n sicr werth edrych ar ei set o luniau balansio cerrig.

Bydd rhaid i fi chwilio am rai ar y ffordd adra rwan.

Cymdogion

Wedi darllen post Geraint, dwi am ymuno yn yr hwyl:
Often, many of the people who live in this sort of postcode will have middle incomes and live in areas of home owning. These are known as type 27 in the ACORN classification and 2.99% of the UK’s population live in this type.

Neighbourhoods fitting this profile are found in many parts of the country including Halifax, Huddersfield, Stevenage, Guildford, Dorchester and Cambridge. Here is an overview of the likely preferences and features of your neighbourhood:








Family incomeHigh
Interest in current affairsMedium
Housing - with mortgageHigh
Educated - to degreeMedium
Couples with childrenMedium
Have satellite TVHigh


These are comfortably off middle-aged people living outside major towns.

The children of these middle-aged couples may have flown the nest, thereby allowing the parents a comfortable lifestyle. Family incomes are good and there is plenty of room in their three or four bedroom houses. With possibly a couple of cars on the drive, these managers and skilled workers are free from major financial worries.

Many have paid off their mortgages; others may have prudently protected their futures with mortgage protection policies, life cover and accident insurance. Modest investments will have been carefully spread across ISAs, unit trusts and high interest accounts. They will be preparing for their retirement with a private pension.

Fresh air suits these people. They play golf, go walking and enjoy fishing and bird-watching. As a result of these interests their donations are more likely to support environmental or wildlife charities. Weekend visits to places of interest means they are likely to have taken National Trust membership.

These are Daily Telegraph and Daily Express readers, and often listen to Radio 2.

Wel Duw! Byddai'm yn sbio ar y boi drws nesa yn yr un ffordd. Radio 2!

Gwychborwr

Mae Splasho.com wedi penderfynu gweld beth fydd yn digwydd os bydd y 100 estyniad mwyaf poblogaidd yn cael eu gosod ar Firefox.

Dyma'r union math o wastraff amser dwi'n mwynhau.

Dyma'r dudalen yma, ynghyd â delwedd o'r porwr.

Mae werth gweld ei ddewislen clic-dde hefyd.

In yddyr niws...

Dwi ar ddiwrnod gwaith olaf yn KL. Disgwyl ymlaen i fynd adra nos fory.

Ethon ni i Chinatown neithiwr, i Stryd Petaling - y farchnad fwyaf nyts dwi rioed wedi gweld. Geshi a Ian beint mewn restoran Tseiniaidd. Ar ôl rhyw ddeg munud roedd cyffro mawr, a rhuodd car mawr du a stopio o'n blaenau. Neidiodd y boi allan o'r car a scramblodd llwyth o hogia allan o'r adeilad dros ffordd a taflu bocys fewn i fwt y car, cyn dreifio ffwrdd efo'r corn yn canu. Roedd y gwerthwyr eraill yn cuddio'i bagiau Prada/Gucci/Luis Vuitton a rhai yn rhedeg lawr y stryd gyda chartiau yn llawn orwyr (be ff*c ydi'r lluosog o oriawr?).

Yn amlwg roedden nhw wedi cael tip off gan yr heddlu, felly roeddem yn disgwyl toman o gopars Malay i droi fyny. Daeth neb yn y diwadd, ond roedd o'n sbort i wylio (ond roedd na geir cops a sirens yn pasio yn y pellter). Doedd yr un ohonom efo camera i gofnodi hyn chwaith, sydd yn anffodus, ond roedd Alice wedi cael chydig o fideo. Ella bydd o ar y we yn fuan.

Lysh gachu wedyn mewn bar 'rege' oedd yn chwara cerddoriaeth boblogaidd o'r wythdegau. Hmm.

Ethon ni am fasâj wedyn. Blydi hel, dwi'n teimlo'n waeth nac ar ôl gem rygbi. Ma' nghefn i yn stiff uffernol, ond mewn ffordd dda. Dyn nhw ddim yn malu cachu fama fel ma' nhw'n neud adra. Dwi 'di cael masâj adra, ac roedd fod i ymlacio. Fama ma nhw'n sortio chdi allan, laic it or not. Roedd o'n defnyddio'i benelin ar un pwynt, fel y backbreaker gynt o WWF. Udodd y boi ar ol gorffan "You very stress".

Fory 'da ni am ailymweld â'r ogofau Batu. Doedd 'na ddim gobaith o fynd fewn yn ystod Thaipusam oherwydd y miloedd o bobl, felly gobeithio bydd fory'n dawelach. Mae'r tu fewn fod yr un maint a chae peldroed rygbi. Bydd y lluniau ar fflicr (ond mwy na thebyg ar ôl mynd adra).

Dwi 'di cael fy nhagio hefyd, felly mae'r 4peth ar ei ffordd (os nad allan yn barod: clicish i ar publish yn lle draft gyna). Fel udodd Rhys "A'i dyma'r pinicl?".

Hefyd cyming yp, yr erthygl cyntaf ar ddylunio i'r we (wrth gwrs, nid yr un cyntaf erioed, ond yr un cyntaf ar y blog hwn. Duh).