Popeth yn Gymraeg

Dwi'n disgwyl ymlaen i wylio'r rhaglen hon heno, a dwi newydd ddod ar draws y blog roedd/mae Ifor yn ei gadw tra'n ffilmio'r rhaglen.

Dyfodol Digidol

Neges ddiddorol ar clagnut.com ynglyn a beth fydd yn digwydd gyda'r holl luniau ayyb mae'n cadw ar Flickr.

Dwi efo toman o luniau ar y ddisgen galad adra ac ar Flickr, a dwi'n amal wedi meddwl am beth fydd yn digwydd. Dwi'n gwbod na neith eu llosgi ar CD neu DVD bara fwy na 10 mlynedd.

Yr unig opsiwn?

Idaho ho ho

Ers llwyddiant y ffilm Napoleon Dynamite, mae gweinyddiaeth Idaho wedi galw i'r cynhyrchwyr cael eu llongyfarch am godi proffil y dalaith.

Gweler y ddogfen.

Dwi'n tynnu'ch sylw at dudalen 2, linell 4 yn arbennig.

Wir yr - effin Americanwyr.

(gan Maddox)

Star Wars yn y Pyb

Os da chi, fel fi, yn rybish mewn pool, ella bydd un o'r rhain yn handi.

Laser guided Pool Cue.

Chez George

Y diweddaraf o fy ffolder Photoshop:

"Prez gives caff seal of approval"


George Bush with a plate of food and captioned Gorge With George

Un bach handi

Dwi wedi addo i'm modryb fyswn i'n sbio fewn i hyn, felly dyma fo fel rimeindar i fi a unrhyw un arall:

http://hacks.oreilly.com/pub/h/611

Sut i brintio rhestr o'r ffeiliau sydd ar ddisg.

Gol: Wedi ffindio un gwell:

karenware.com/powertools/ptdirprn.asp

Kill Bill

Pam cael gwared ar Internet Explorer? Dyma pam:

KillBillsBrowser.com

Pyb Golff

Rioed di chwara hwn? Neith o ffycio chdi drosodd go iawn am ddiwrnod neu ddau.

Roedd hi'n benblwydd ar fy nghefnder yn 19 nos Iau. Yn Rummer's dyma fi'n digwydd son iddo am Pyb Golff, y gem yfad dwi wedi chwarae yng Nghaernarfon unwaith neu ddwy.

Pan landiodd ei fets, mi gymrodd o'r syniad o ddifri a cael pawb i gytuno i chwarae.

Felly roedd raid i fi wneud score-card ac off a ni.

Rheolau:

1. Mae angen score-card tebyg i hyn:














EnwGoat Major /3Floyd's /4Model Inn /3City Arms /2Yates /4Zync /3
Mei





Ianto





Nedw







2. Un diod ym mhob tafarn (hannar lagyr yn ddigon...trystia fi).

Y Par yw'r rhif wrth enw'r dafarn.

Amcan y gem yw trio yfad pob diod mewn cyn lleied o swigs a phosib. Caiff y nifer ei nodi yn y bocs, a'r sgor ei adio ar y diwedd. Pwy bynnag sy'n cael y lleia o dan par sy'n curo (hence pyb golff! Geddit!)

Wrth gwrs does neb yn gallu darllen ar ol y nawfed tafarn, heb son am gadw sgor/gweld pwy sy'n curo, ond dim dyna di'r point.

Dwi wedi gweld rhai'n chwarae'r gem hon mewn ffordd anghystadleuol, h.y. yfed fel normal a sgorio ~ 10-11-12 ymhob pyb. Yn bersonol dwi'n mynd amdani a clec i'r hannar mewn un.

Suffice to say, oeddan ni gyd yn hollol lysh gachu, a'ng nghefnder i'n falch bo fi wedi mynnu chwarae efo hannars a dim peintia' neu "fysa ni wedi bod yn sbyty".

Dwi'm yn cofio dim ar ol 11.30. Aeth y gweddill i rhyw gay pyb a tynnu ar lesbians wnaeth ddechra lluchio poteli, ond stori arall yw honno.

Boi calad

Ma angan neud digon o ffys am hyn.

Ross "Hard Man" Kemp wedi cael 'i ddyrnu gan 'i wraig. Ha! Gyted!

Phil ddim o gwmpas i edrych ar ol o?

Nob.

* * *

Mae hyn di atgoffa fi o'r gwhaniaeth mewn tafodiaeth fi a'i theulu hi. Neshi gerdded fewn ar sgwrs unwaith a pawb yn "Na..ma hynna'n disgres.." ayyb.

Siarad am y boi 'ma oeddan nhw oedd yn camdrin ei wraig, ond don i heb glywad, felly neshi ofyn i'r gefnither

"Be odd hynna?"

A dyma hi'n atab:

"Ma John Bach yn ffistio'i wraig."

<llgada'npopioallan />

Rhaid cael un

Allweddfwrdd Optimus.

Mae allweddfyrddau sydd â'r llythrenau wedi'u printio yn old hat. Mae'r Optimus yn defnyddio golau, felly gellir ei setio i ddangos controls unrhyw raglen sy'n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd.

Dwi ddim yn dda iawn yn esbonio felly dos i sbio i ddallt.

Iawn? Gan fod hwn yn Gôd Agored, gellir ei newid i unrhyw ddefnydd. Felly buasai allweddi i'r llythrennau Ch, Dd, Ff ayyb ar gael.

Da ia?

Dim ond angen confinsio y hi bod wir angen un arna fi sydd i'w wneud rwan...

Buff yn y Bae

Dwi wedi cael annwyd a dolur gwddwg o rwla. Basdad o beth.

Un arf i gadw fo dan reolaeth ydy'r Buff geshi pan yn eirfyrddio/sgio yn Awstria. Os nad wyt ti wedi gweld yr hysbyseb yn y siopa dringo 'ma, wel ti di cael colled. Rhyw 'climber type' (dos i Lanberis ar ddydd Sadwrn os tisho syniad gell) efo handlebar mwstash yn deutha chdi y cant a mil o ffyrdd gwahanol fedri di ddefnyddio dy byff.

Scarf, skullcap, bandana, balaclava, alice band, band gwallt (i'r genod) ayyb ad infinitum.

Highly recomended.