Dwi wedi gallu gosod Mandriva LE 2005 yn lled lwyddiannus ar y cyfrifiadur.
Yr unig beth sy'n stopio fi rhag ei ddefnyddio'n gyfan gwbl ar wahan o Window$ ydy fy annwyl gysylltiad ADSL 2.2Mb/s.
I gael gwybodaeth am ddefnyddio Linux, mae'n rhaid i fi gael y we, ac felly mae fy nibyniaeth ar WinXP yn parhau.
Dwi wedi ffindio dwy dudalen hyd yn hyn, sydd yn ceisio rhoi cyngor ar cael modem crap BT, y Voyager 105 i weithio yn linux.
Dyma nhw:
http://www.linuxquestions.org/questions/history/334061http://www.lack-of.org.uk/viewarticle.php?article=114
Dwi heb gael sbin arni eto, ond mae'n handi cadw'r petha ma fama am rwan.
Dyna
ydi blog, ynde?