Sucker

Dwi wedi bod yn darllen lot o snopes.com yn ddiweddar, y wefan sy'n esbonio urban myths.

O'n i'n gyted i weld mod i wedi cael fy sycro efo rhywbeth o'n i wedi blogio am o'r blaen.

Chase me ladies...

...I'm the cavalry.

Dwi heb ddarllan rhywbeth sy'n neud i fi biso trwsus yn chwerthin ers talwm.

Ffrindiau gyda pobl du

Gwychder o wefan:

blackpeopleloveus.com

Mwynhewch.

Penawdau dydd Iau

Ar ol y siom dydd Sadwrn, dyma rhywbeth i godi calon:

Daily Mail: Sack the Swede
Daily Star: Sack the Swede
The Mirror: Sack the clot
The Sun: Taxi for Eriksson
Daily Express: Sven's Irish joke
Guardian: England are humiliated
Daily Telegraph: England are humiliated
Independent: Humiliation
Times: Eriksson feels the heat after sad England's latest debacle
Racing Post: Shambles sees Eriksson slashed to get the sack

Diolch i wefan y BBC.

Linux a BT

Dwi wedi gallu gosod Mandriva LE 2005 yn lled lwyddiannus ar y cyfrifiadur.

Yr unig beth sy'n stopio fi rhag ei ddefnyddio'n gyfan gwbl ar wahan o Window$ ydy fy annwyl gysylltiad ADSL 2.2Mb/s.

I gael gwybodaeth am ddefnyddio Linux, mae'n rhaid i fi gael y we, ac felly mae fy nibyniaeth ar WinXP yn parhau.

Dwi wedi ffindio dwy dudalen hyd yn hyn, sydd yn ceisio rhoi cyngor ar cael modem crap BT, y Voyager 105 i weithio yn linux.

Dyma nhw:

http://www.linuxquestions.org/questions/history/334061
http://www.lack-of.org.uk/viewarticle.php?article=114

Dwi heb gael sbin arni eto, ond mae'n handi cadw'r petha ma fama am rwan.

Dyna ydi blog, ynde?

Nat Watch

Llwyth o shit wedi' hitio'r ffan yn ddiweddar ar ol yr holl falu cachu sydd wedi bod efo Natwatch, ma na foi o'r cyngor wedi ymddiswyddo o'r herwydd, a wedi cael ei hun yn Tail y Post am ei drafferth. Yn ddiddorol, nid ydi'r exchange o ebost rhyngdda fo a NW sydd wedi'i brintio heddiw yn Tail y Post yn debyg i'r un sydd wedi'i bostio ar Natwatchwatch.

So pwy ydy'r cont sy'n galw ei hun yn Price4President? Mae Nic Dafis wedi taflu syniadau o gwmpas.

Bydd yn ddiddorol gweld beth sy'n digwydd rwan.

Papur Magnetig

Rhywbeth o SimpleBits, cwmni sy'n marchnata papur sydd yn fagnetig.

Dwi'n cymryd mai papur ar un ochr a magnet ar yr ochr arall.

Pointless? I chdi a fi ella, ond mae'n rhywbeth i gwmniau marchnata feddwl am.