Google Map o'r Wyddfa a'r Dwyrain
Mae Google wedi ychwanegu lluniau hi-res o ardal y Wyddfa, ac ardaloedd y Dwyrain o'r ffin i Ddinbych. Gellir gweld y ddau ran yn y llun yma.
Dwi'm yn siwr pryd wnaeth hyn ddigwydd, ond dwi'n gobeithio ei fod yn arwydd y bydd Cymru gyfan wedi'i gynnwys cyn hir. Dwi'n falch iawn i weld hyn yn digwydd gan Microsoft Live Maps oedd yr unig un arall efo'r wybodaeth hyn.
Labels: gmaps