Ar ôl ista arno ers amser, dwi wedi gwneud defnydd o gwilym.net. 
O hyn ymlaen byddaf yn ysgrifennu pethau mwy technegol ar fy mlog newydd, 
mei.gwilym.net/blog. 
Dwi wedi ysgrifennu rhai erthyglau yn barod (dim gwaeth na "
Dwi wedi dechrau blog!" heb ddim yna) a dwi am geisio ychwanegu erthyglau yn gyson.
Dwi ar ganol cyfres o erthyglau rwan, sydd dal mewn drafft, ond byddant yn cael eu cyhoeddi yn fuan.
Mae'r blog yn rhedeg ar 
Wordpress 2.1.2 gyda'r thema 
Hemingway 0.19 gan 
Kyle Neath.
Mae o'n gyfle i mi ysgrifennu pethau fwy technegol, cyhoeddi pethau dwi wedi creu, ynghŷd â cael chwarae gyda Wordpress.
Labels: blog, gwilym.net, wordpress