George Carlin, 1937 - 2008

Er cof am y comic enwog, dyma un o fy hoff routines.



George Carlin ar Youtube.

Labels:

Firefox 3

Mae'r fersiwn hir-ddisgwyliedig o'r porwr allan rwan.

Dwi wedi'i lawrlwytho i'r cyfrifiadur yn gwaith ac i'r system Ubuntu adra, a mae o yn gret.

Dwi wedi bod yn cael trafferth mawr gyda memory leakage tra'n defnydido Gmail, ond gobeithio bod y problemau hyny wedi'i ddatrys rwan.

Yn ogystal a gwell perfformiad, dyma 'chydig o'r nodweddion newydd:


  • Yr 'Awesome Bar', neu'r bar cyfeiriad newydd, sy'n cofio lle ti di bod ac yn gallu chwilio yn dy hanes pori am y tudalennau ti wedi ymweld â, hyd yn oed os ti'm yn cofio'r union gyfeiriad.

  • Llyfrnodi neu gadw >favourites gyda un clic

  • Systemau diogelwch sy'n rhybuddio os ti'n mynd i dudalennau amheus

  • Ysgrifen rhy fach? Gellir chwyddo'r dudalen i arbed straen ar y llygaid



Felly, am be ti'n disgwyl? Lawrlwytho Firefox 3.

Labels: