Wel - wel wel - wel wel - Mei bach
Hmm...Ddim yn siwr am hwn.
Eshi i gyfarfod cyffredinol y Clwb Rygbi neithiwr. Neshi gytuno i gymryd cofnodion (gan mod i'n gwneud yn gwaith) y cyfarfod, gan nad oedd yr ysgrifennydd yn bresennol. Pan yn dod i ddiwedd y cyfarfod, lle oedd angen ethol swyddogion, daeth yn amlwg nad oedd yr ysgrifennydd presennol am barhau.
Dyma pryd neshi ddechrau poeni.
Felly fi yw'r ysgrifenydd newydd (Mr Secretary i chdi). O'n i wedi mynd yna efo'r bwriad o gymryd rhan mwy proactive yn y clwb, ond dim dyma oedd beth oedd gen i mewn meddwl.
O wel. O leia bydd na ddim esgus rwan am yr holl Saesneg. Ac ella wneith o sbyrio fi 'mlaen i orffen y wefan bondigrybwyll 'ma dwi wedi addo dylunio.
Ymlaen a'r gwaith!