Wel - wel wel - wel wel - Mei bach

Hmm...Ddim yn siwr am hwn.

Eshi i gyfarfod cyffredinol y Clwb Rygbi neithiwr. Neshi gytuno i gymryd cofnodion (gan mod i'n gwneud yn gwaith) y cyfarfod, gan nad oedd yr ysgrifennydd yn bresennol. Pan yn dod i ddiwedd y cyfarfod, lle oedd angen ethol swyddogion, daeth yn amlwg nad oedd yr ysgrifennydd presennol am barhau.

Dyma pryd neshi ddechrau poeni.

Felly fi yw'r ysgrifenydd newydd (Mr Secretary i chdi). O'n i wedi mynd yna efo'r bwriad o gymryd rhan mwy proactive yn y clwb, ond dim dyma oedd beth oedd gen i mewn meddwl.

O wel. O leia bydd na ddim esgus rwan am yr holl Saesneg. Ac ella wneith o sbyrio fi 'mlaen i orffen y wefan bondigrybwyll 'ma dwi wedi addo dylunio.

Ymlaen a'r gwaith!

Streic y BBC

Dwi wastad yn gwylio Breakfast ar y BBC cyn mynd i'r gwaith yn y bore (ar ol i'r wraig orffen gwylio GMTV).

Felly do'n i methu dallt pam roedd Simon le Bon a Nick Rhodes o Duran Duran ar Hardtalk am 9.00 bore 'ma, yn hytrach na Bill Turnbull a Natasha Kaplinsky (a hefyd pam oedd Dai Jones ar Radio Cymru am 9.05am).

Ond wrth gwrs mae staff a newyddiadurwyr Auntie wedi penderfynu streicio i brotestio yn erbyn y toriadau mewn staff sydd wedi'u addo.

Da iawn meddwn i.

Pobl ansicr eu meddwl

Wrth ddarllen morfablog i geisio Cymreigio'r blog (ac yn llwyddiannus fel y gwelwch!), roedd yn cyfeirio i'r wefan hynod ddoniol hon.

Mae hyn yn typical o'r agwedd small minded sydd gan llawer o Saeson tuag at unrhyw un sydd ddim yn Sais. Mae o'n rhywbeth yn y psyche cenedlaethol dwi'n meddwl: maent wedi'u dwyn i fyny i sbio lawr ar bawb gwahanol (boed yn isymwybodol neu beidio), a mae byw ar ynys yn Ewrop yn amlwg yn cael effaith.

Blood, sweat and tears

Eshi lawr i'r garej neithiwr i ail afael yn fy mhroject i adeiladu bracket i ddal fy nghamera digidol i'r telesgop.

Cyn dechrau geshi fy nistractio gan y project arall sydd heb ei orffen, stabilizer i'r camera fideo.

Teclyn tebyg i'r steadicam dwi'n anelu at adeiladu, sy'n enwog am y tracking shots allan o'r ffilm The Shining.

Dwi bron a'i orffen, ond mae angen tweakio fo ychydig tan bydd o'n gweithio'n hollol sbot on. Nai sortio allan lluniau a fideos ar ol i fi ei orffen er mwyn cael gweld y canlyniadau.

Ta waeth, bron i fi dori fy mys bach i ffwrdd gyda'r cun.

To me...To you

Ar ol clywed bod un hanner yn involved mewn triongl cariad gyda cwpl priod, a gwneud Google, ddeshi ar draws gwefan yn rhoi critique diddorol a doniol ar Chucklevision.

Os da chi'n cofio'r rhaglenni yma ar y BBC (a c'laen, pwy sydd ddim, ma'r bastads 'mlaen ers 1989) bydd y dudalen yma'n siwr o godi gwen.

Mae werth dilyn y lincs sydd ar waelod y dudalen hefyd, yn enwedig os 'da chi'n casau Gary Bushell.
* * *
Yn anffodus, ma'r stori wreiddiol oedd ar wefan The Sun wedi mynd rwan.

Eniwe, o be dwi 'di ddarllan ar y blog hwn, nath o tapio fyny rhyw fodan mewn services traffordd. Un neu ddau o gomments ar ei allu rhywiol fama 'fyd. Sglyf.

Yr hyfryd Ann Coulter

Wedi darllen "Dude, Where's My Country" a "Stupid White Men" gan Michael Moore, neu "Lies (and the Lying Liars Who Tell Them)" gan Al Franken?

Os felly, rwyt ti'n gyfarwydd a Ann Coulter, news commentator hynod asgell dde ar y sianel asgell dde Fox News (Slogan 'Fair and Balanced: We report, you decide').

Mae werth felly darllen y blog yma ddes i ar ei draws yr wythnos diwethaf. Blydi hilarious.

Mae hefyd werth Googlio Ann Coulter, i gael gweld 'chydig o'i hanes. Dyma un wefan sy'n rhoi cefndir cryno amdani.