Ha! O'r diwadd dwi wedi splasho allan, a mae 'na rwan rwydwaith 54
Mbps yn y ty, felly ga'i syrffio'r wê gyda'r sgrin-ar-lin o unrhywle yn y ty.
System Linksys aeth a hi,
Wireless-G ADSL Gateway for Notebooks am £40 o
Curry's. Welish i hwn yn Dixons yn Manceinion ar y 28ain, ond o'n i'n meddwl fyswn i'n cael dîl gwell ar y wê.
Wel, do'n i methu ffindio un gwell, a ro'n i'n gyted achos doedd na ddim siop arall leol efo'r un dîl (nac ar eu gwefan).
Ond, digwydd galw mewn i Curry's heddiw a
voila, fana oedd y basdad!
Dwi'n disgwyl ymlaen i'r haf pan gai syrffio yn yr ardd.