Hiwmor

Dwi 'di clywad lot o jocs yn fy amser, ond hwn di'r joc gorau am flonds dwi 'di clywad.

Hanes Digidol

Wedi darganfod erthygl diddorol ar wreiddiau fy hoff olygwr delwedd, Photoshop (ffeil .pdf).

Cafodd ei ysgrifennu yn 2000, felly mae o 'chydig yn dated.

Dwi off rwan i gwglio am Easter Eggs...

That's the Badger!

O'n i'n sôn wrth ffrind i mi mod i'n meddwl bod o 'chydig yn od bod BBC Wales yn annog pobl i roi 'BBC Wales' fewn i google gyda'u term ymchwilio (yr hysbysebion Badger 'na).

Felly eshi ati i ymchwilio'n fwy trylwyr, a fysa chdi'n synnu beth sy'n dod ar frig canlyniadau google efo hwn:

"BBC Wales porn"

What would Gavin say?

Ailddyfeisiad (rhan 2)

Mae'r cwch wedi'i wthio allan, ac yn awr mae'r blog ar ei newydd wedd.

Dwi wedi bod yn brysur efo Photoshop a CSS i neud o edrych 'chydig yn wahanol.

Gyda'r ailddyluniad bydd y blog yn canolbwyntio fwy ar ddylunio i'r we ayyb, a llai o falu awyr a rhegi (gobeithio).

Mi neshi symud o i meigwil.co.uk/blog, ond nid oedd y ffrwd atom yn cael ei ddiweddaru wedi gwneud hynny, felly mae o nôl ar letywr blogger.

Crys Lembi-T

I chwi LibDems trendi Cymraeg, gewch chi wisgo'ch calon ar eich llawes (neu frest, yn yr achos yma), gyda charedigrwydd y LibDemsBlogShop.

Afrotech: Modio rhad ac am ddim

Os 'da chi'n awyddus i wella'ch cyfrifiadur, ond ddim am wario mwy na £2.50, mae'n werth sbio ar dudalennau Afrotech.

Fy fferfyn i ydy'r System Sain Disgen Galed.

Rhwydwaith di-wifr

Ha! O'r diwadd dwi wedi splasho allan, a mae 'na rwan rwydwaith 54Mbps yn y ty, felly ga'i syrffio'r wê gyda'r sgrin-ar-lin o unrhywle yn y ty.

System Linksys aeth a hi, Wireless-G ADSL Gateway for Notebooks am £40 o Curry's. Welish i hwn yn Dixons yn Manceinion ar y 28ain, ond o'n i'n meddwl fyswn i'n cael dîl gwell ar y wê.

Wel, do'n i methu ffindio un gwell, a ro'n i'n gyted achos doedd na ddim siop arall leol efo'r un dîl (nac ar eu gwefan).

Ond, digwydd galw mewn i Curry's heddiw a voila, fana oedd y basdad!

Dwi'n disgwyl ymlaen i'r haf pan gai syrffio yn yr ardd.

Windoze

Mae'r rhesymau dros adael Internet Explorer a Firefox yn pentyru.

Mae 'na 'vulnerability' newydd yn Windows sy'n ymosod ar y cyfrifiadur drwy IE. Does ond angen ymweld a'r wefan gas gyda IE, a mae'r cyfrifiadur wedi'i gymryd drosodd.

Felly ffordd hawdd a rhad o osgoi'r broblem hyn yw gadael IE a dechrau defnyddio Firefox. Mae fersiwn 1.5 allan ar hyn o bryd a mae o'n gret.

Does dim angen gwario ar raglen modryb-feirys na gofyn i ffrind sy'n 'dda efo cyfrifiaduron', dim ond ei lawrlwytho, ei osod a'i ddefnyddio. Hawdd.

Go on, tria fo. Fyddi di'n teimlo'n well wedyn.