Rioed di chwara hwn? Neith o ffycio chdi drosodd go iawn am ddiwrnod neu ddau.
Roedd hi'n benblwydd ar fy nghefnder yn 19 nos Iau. Yn Rummer's dyma fi'n digwydd son iddo am Pyb Golff, y gem yfad dwi wedi chwarae yng Nghaernarfon unwaith neu ddwy.
Pan landiodd ei fets, mi gymrodd o'r syniad o ddifri a cael pawb i gytuno i chwarae.
Felly roedd raid i fi wneud score-card ac off a ni.
Rheolau:1. Mae angen score-card tebyg i hyn:
Enw | Goat Major /3 | Floyd's /4 | Model Inn /3 | City Arms /2 | Yates /4 | Zync /3 |
---|
Mei |
|
|
|
|
|
|
Ianto |
|
|
|
|
|
|
Nedw |
|
|
|
|
|
|
2. Un diod ym mhob tafarn (hannar lagyr yn ddigon...trystia fi).
Y Par yw'r rhif wrth enw'r dafarn.
Amcan y gem yw trio yfad pob diod mewn cyn lleied o swigs a phosib. Caiff y nifer ei nodi yn y bocs, a'r sgor ei adio ar y diwedd. Pwy bynnag sy'n cael y lleia o dan par sy'n curo (
hence pyb golff! Geddit!)
Wrth gwrs does neb yn gallu darllen ar ol y nawfed tafarn, heb son am gadw sgor/gweld pwy sy'n curo, ond dim dyna di'r point.
Dwi wedi gweld rhai'n chwarae'r gem hon mewn ffordd anghystadleuol, h.y. yfed fel normal a sgorio ~ 10-11-12 ymhob pyb. Yn bersonol dwi'n mynd amdani a clec i'r hannar mewn un.
Suffice to say, oeddan ni gyd yn hollol lysh gachu, a'ng nghefnder i'n falch bo fi wedi mynnu chwarae efo hannars a dim peintia' neu "fysa ni wedi bod yn sbyty".
Dwi'm yn cofio dim ar ol 11.30. Aeth y gweddill i rhyw gay pyb a tynnu ar lesbians wnaeth ddechra lluchio poteli, ond stori arall yw honno.