Brynstock '06

Neithiwr aeth fi a Cat i noson Tân y Ddraig yn y Faenol.

Yn ffodus iawn, o'n i'n cofio nad oedd poteli yn cael eu gadael mewn ers flwyddyn diwethaf, a prynais focs o win er mwyn tori'r syched anochel.

Fel pob blwyddyn roedden ni yna'n gynnar, ond yn synnu i weld ciw oedd yn ymestyn ar draws y lawnt a oedd bron a chyraedd y ty. Roedd hyn oherwydd y penderfyniad (a wnaed am 4yp ddoe) i beidio a gadael caniau i'r maes, ac i archwilio bagiau pawb oedd yn mynd mewn.

Wrth gwrs roedd lot o bobl yn anhapus gyda hyn (a pan dwi'n deud anhapus, be dwi'n feddwl ydi ffycin pisd off). Roeddwn i a Cat yn ciwio am 3/4 awr (a hitha 7 mis yn feichiog) a pan cyrhaeddon ni ochr arall y giât roedd 'na fwy tu allan yn ciwio nac oedd tu mewn yn gwrando ar Nathan Williams (a damia hynny hefyd, fethish i ei set o, ond dal udo Tara Bethan).

Felly pa hawl sydd ganddyn nhw i wneud hyn? O'r chydig dwi'n wybod am y gyfraith, dim ond yr heddlu sydd â'r hawl i archwilio eiddo unrhywun, a hynny pan mae gennynt resymau cadarn. Nid oedd dim i rybuddio am archwiliad, a ni ofynnodd neb i fi i gael agor fy mag a mynd trwy fy mhetha. Â yw hyn yn gyfreithiol? Dwi'n ama.

Nid oedd unrhyw fan ar y nosweithiau blaenorol. Ond wrth gwrs fysa'r pobl neis o Gaer ddim yn cymryd body-search, a ddim yn troi fyny y flwyddyn nesaf. And we can't have that, can we?

Rhesymau diogelwch oedd tu ôl i'r can-ban, mae caniau yn gwneud taflegrau effeithiol*. Rhywbeth arall sy'n gwneud taflegrau effeithiol yw ceiniogau. Felly beth am eu banio? Ta fysa hynny yn effeithio proffits y bar?
*Roedd gen i ymbarel hefyd. Mae'n gwneud gwaywffon effeithiol, ond nid yw'r swyddogion diogelwch yn poeni am hyn.

Ffonts

O'n i'n Tesco ddoe yn prynu lysh a mynsh i'r Faenol (briliant tan y dilyw ar ddechrau set Anweledig, ond y ffasgaeth 'di sboilio petha 'chydig) a dyma fi'n sôn i'r wraig am y ffont ma' nhw'n ddefnyddio i'r arwyddion yn y siop.

Sylwi neshi bod 'na serifs tebyg i'r patrwm ar waelod eu logo i'r llythrennau, a dyma fi'n meddwl os oedd y ffont yn un arbennig i Tesco.

Roeddwn i'n iawn.

Nid yw'r ffont ar gael i brynu, ond gyda Print Screen a Photoshop dwi'n siwr bod 'na lot o hwyl i gael ar wneud arwyddion siop amgen.

Keyboard Shortcuts

Dwi'n gweld defnyddio'r allweddell weithiau yn hytrach na'r llygoden yn llawer mwy cyfleus, felly dyma fi'n rhannu technegau.

I gael y gorau o'r rhain, dwi'n awgrymu cadw'r law chwith wrth ochr chwith yr allweddell o pan yn defnyddio'r cyfrifiadur.

Control a...

I gopïo testun, mae'n bosib rhoio glec ar y botwm dde, a dewis Copy o'r ddewislen. Ffordd gyflymach a hwylusach yw defnyddio Control+C. Gellir yna defnyddio Control+V i bastio'r testun yn lle bynnag.

Ynghyd â'r ddau yna mae Control+X yn gwneud Cut, sydd fel Copy, ond mae hefyd yn dileu'r testun o'r sgrin (Control+V eto i'w bastio). Mae hyn yn ddefnyddiol i symud testun o un lle i'r llall, heb orfod wneud Copy, Paste a Delete.

Os wyt ti wedi gwneud camgym, pwysa Control+Z i wneud Undo. Mae hwn yn gweithio bron ymhob rhaglen yn Windows. Os wyt ti'n penderfynu nad oeddet ti am wneud Undo, pwysa Control+Y i wneud Redo.

Mae Control+A yn copïo popeth yn y ffenestr/ddogfen. Un defnydd o hwn yw i gopïo ffeiliau o un directory/folder i'r llall. Dwi'n aml yn rhoi ffeiliau ar fy ngherdyn USB. Felly os dwi am eu copïo i ffolder arall, does ond angen Control+A i ddweis pob un, yna Control+V i'w roi yn y ffolder/directory arall. Os tisho dewis nhw i gyd heblaw un, mae dal Control lawr o chlicio ar y ffeil yna yn deselectio. Gellir clicio ar fwy nag un fel bo'r angen.

Ffordd gyflym o wneud Save yw Control+S. Mae Control+Shift+S yn gwneud Save As... (neu F12 yn MSOffice). Control+N i agor dogfen newydd. Control+O i agor dogfen, a Control+P i argraffu.

Fformatio: Control+I am Italics, Control+B i gael Bold, Control+U i gael underline (dim fysa chdi isho neud hynny...), ac yn Word, Control+Return i wneud page break. Mae Control+I a Control+B yn gweithio hefyd yn Blogger.

I wneud maint y testun yn fwy yn Firefox, Control++ (y botwm + unai ar y prif alweddell neu'r keypad). Control+- i'w wneud yn llai, ac os ti wedyn ar goll a methu cofio maint gwreiddiol y testun, Contol+0 (zero).

Eto yn Firefox, Control+W i gau y tab presennol. Control+J i ddangos y rheolwr lawrlwytho.

I ddarganfod gair mewn dogfen yn gyflym, mae Control+F yn agor yr arf chwilio. Mae hyn yn gweithio yn Firefox, IE a Word (sy'n agor y search & replace) a nifer o raglenni eraill. Dwi'n ffindio hwn yn ddefnyddiol ar dudalen we faeth, fedrai chwilio o fewn y dudalen am y gair dwi angen.

Symud o gwmpas y ddogfen

Yn hytrach na defnyddio'r llygoden i roi'r cusror yn y man priodol, dwi'n defnyddio'r allweddell. Dwi'n weld o'n llawer mwy cyfleus na mynd o'r allweddell i'r llygoden.

Control+ ← →. Wrth bwyso'r saethau cwhith a dde yn unigol, mae'r cursor yn symud un bwlch. Wrth eu pwyso gyda Control, maent yn symud un gair. Mae hyn yn gynt i gywiro typos ayyb.

Mae Shift+ ← → yn highlightio testun un llythyren ar y tro. Efo Shift+Control mae'n bosib highlightio geiriau cyfan. Mae hyn yn ddefnyddiol i ddileu gair/geiriau, neu i roi fformatio Bold, Italic neu Underline yn gyflym.

Gan ddefnyddio'r rhain gyda'r botymau Home ac End (sydd wrth y botwm Delete), gelli symud ar draws dogfen fel mellten, a heb sticio'r tafod allan wrth symud y lygoden i rhywle manwl. Yn syml, mae Home yn mynd i ddechrau'r linell, a End yn mynd i ben y llinell.

Mewn porwr mae End yn mynd yn syth i ddiwedd y ddogfen, a Home yn mynd yn ôl i'r cychwyn. Mae Page Up a Down yn scrolio'r ddogfen fyny a lawr fesul hyd sgrin.

Yn Firefox mae Alt+Home yn eich anfon i'ch tudalen gartref.

Tab

Heblaw am wneud bylchau mawr mewn dogfennau prosesu geiriau, mae'r Tab yn ddefnyddiol i neidio o un peth i'r llall. Mae Shift+Tab yn mynd a chi'n ôl.

Mewn porwr, mae sawl defnydd. Yn firefox, os dwisho neud archwiliad cyflym heb adael y dudalen bresennol, dwi'n pwyso Control+T yna Tab. Bydd hyn yn agor tab newydd, ac yn anfon y cursor i'r bocs chwilio bach yn y gornel dde uchaf. Os ti am wneud chwiliad yn y dudalen bresennol, mae Control+E yn mynd a ti'n syth i'r bocs chwilio.

Mae Control+Tab yn cycleio trwy'r tabs sy'n agored.

Yn Windows mae Alt+Tab yn arddangos a rhoi dewis o bob rhaglen sy'n agored. Mae angen dal Alt i lawr, a phwyso Tab i ddewis y rhaglen. Mae trio hyn allan yn haws na fi'n ceisio esbonio.

Alt+F4 i gau rhaglen.

I ddiffodd Windows yn gyflym: botwm Windows > ↑ > a gwasgu return ddwywaith.

A dyna ni

Wel Duw, do'n i'm yn sylweddoli mod i'n defnyddio gymaint. os dwi'n meddwl am fwy mi wnai eu hychwanegu.

Os ti'n ffindio'r ganllaw hon yn ddefnyddiol, pwysa Control+D i roi y ddudalen hon yn dy favourites!

Dymuniadau olaf

Gellai weld o rwan:
...a dwisho arch dderw, hers wedi'i dynnu gan geffyl, dyn mewn het ddu yn cerdded o'i flaen, a xxx lesbo threesome show ar y diwedd.

Po fwyaf o bobl sy'n troi fyny i dy g'nebrwng/angladd yn China, po fwyaf o anrhydedd sydd yna ar y sawl sydd wedi'n gadael.

Felly mae'n draddodiad i heirio strippars i sicrhau bydd torfeydd yno. Wrth gwrs mae hyn ychydig yn erbyn yr ethos gomiwnyddol, felly mae'r llywodraeth yn clampio lawr ar hyn.

Bechod, o'n i wedi disgwyl ymlaen i hen yncl Hu gicio'r bwced...

Internet Explorer 7

Mae MS wedi cyhoeddi eu gwelliannau i ochr CSS o'u porwr newydd, IE 7.

Dwi'n bell o fod yn arbennigwr ar y bygs sydd yn IE 6 i lawr, ond o be dwi'n weld mae'r gwelliannau yn edrych yn addawol. Bydd rhain yn caniatau i ddatblygwyr tudalennau gwê ddefnyddio llawer mwy o dechnegau CSS yn eu tudalennau.

Ond mae nifer o broblemau yn codi o'r herwydd. Mae llawer o ddatblygwyr yn ecsploitio'r bygs hyn i orfodi IE i wneud be' mae nhw isho. Heb y bygs hyn, bydd nifer o wefannau yn tori lawr, sy'n golygu lot o waith i ddatblygwyr i ail sgwennu'r CSS*.

Ac un cwestiwn sydd gennyf yw sut mae MS yn bwriadu gosod IE 7 ar y cyfrifaduron hyn sy'n defnyddio IE 6? Fydd o'n opsiynol, neu a fydd yn rhan o'r Windoze Updates?

Os na fydd y defnyddwyr IE presennol yn ei ddefnyddio, bydd hyn ddim yn gwneud gwahaniaeth.

Ta waeth, dwi'n falch i weld bod MS yn ymdrechu i wneud y we yn le gwell, a bydd syrffwyr yn cael mwy allan o'u tudalennau.
*Yn bersonol, dwi wedi bod yn defnyddio Conditional Comments i fwydo CSS arbennig i IE, felly dwi'n osgoi hyn.

Hwyl!

Gan bod y byd ar ben, tara felly i chi gyd.

Gol: Wel Iesu, 'da ni gyd dal yma. Ella na ddyla fi goelio popeth dwi'n ddarllen ar y rhyngwe peth'ma.

Pwy sy'n dychryn pwy?

Penderfynais fod yn sceptical iawn o'r newyddion diweddar am plot enfawr i chwythu fyny awyrennau.

Roedd MI5 wedi rhoi'r lefel uchaf o security ar y wlad, oedd yn golygu "attack iminent".

Rwan, dwi'n cofio'r IRA yn gosod boms yn Llundain a Manceinion. Gan amlaf mi fysa 'na rybudd dros y ffôn "by a man bearing an Irish accent", ac roeddem yna'n cael gwylio'r ffrwydrad yn fwy ar ein sgriniau teledu.

Ond hyd yn oed gyda'r rhybuddion yma, dwi'm unwaith yn cofio MI5 yn rhoi rhybudd o "attack iminent". Dwi'm yn cofio sôn am unrhyw fath o lefel diogelwch o gwbl, a hynny gyda'r rhybuddion hyn.

Ond, tro 'ma, wedi'r heddlu arestio ugeiniau, mae'r senario milwyr ar y traethau/taflegrau ar y ffordd yn cael ei chwarae allan - AR ÔL arestio'r bomwyr-posib.

Neshi sôn wrth rai yn y gwaith, ond reddent yn sceptical ohonof i - fely pwy oedd wedi terrorizio? Y bomwyr neu'r llywodraeth.

Ac o'n i wedi anghofio i flogio am hwn, tan ddarllenish i blog Craig Murray.

Wedi'r wyl

Mae'r wythnos drosodd, a dwi'n barod i fynd adra. Yn anffodus dwi dal yn gweithio heddiw, ac mi fydd hi'n fory pan wela'i Felinheli eto.

Er hynny mae di bod yn wythnos dda. Ma gwaith wedi bod yn drwm, ond dwi wedi mwynhau pob munud. Geshi rhoi wyneb i'r picsel yn y blog.gwrdd/steddfod06, ond yn anffodus geshi'm cyfle i siarad a phawb o'n i wedi bwriadu. Ta waeth, bydd digon o gyfle yn y dyfodol.

Un peth â groesodd fy meddwl heddiw (tra'n sbio ar ddarn am y gadair) oedd nad oes 'na un (o be dwi'n wbod) blog am gynganheddu. Oes 'na rhywun yn gwbod am un. Dwi eisoes yn ymwybodol o'r annedd, ond fyswn i'n licio gweld blog gyda gwersi cynghanedd ayyb.

Unrhywun?

Wilma

Naci, nid gwraig Ffred Fflinston, ond y delynores amryddawn oedd ar lwyfan yr Eisteddfod.

Dwi wedi jibio a 'di tynnu'r fideo lawr. Ella bydd o'n ymdadngos eto rhywbryd.

Blogio Gwleidyddol

Fel sy'n amlwg o'r blogs ar y bar ochr, dwi'n ceisio dal fyny â'r blogosffer gwleidyddol, a diddorol oedd Rhys yn sôn am flog Martin Eaglestone, ymgeisydd Llafur am sedd Arfon yn etholiadau'r Cynulliad y flwyddyn nesaf, a chyn-Gadeirydd cyngor cymuned Y Felinheli.

Felly diddorol oedd gweld bod y Blaid Lafur wedi dechrau cystadleuaeth i ddarganfod blogiwr swyddogol i'w cynhadledd ym mis medi.

Cyd-ddigwyddiad?

Steddfod

Dwi lawr ers dydd Iau efo gwaith, ac wedi bod yn reit brysur felly heb gallu neud dim blogio tan rwan.

Dwi wedi bod yn hogyn reit dda o ran mynd allan, a heb gael unrhyw nosweithiau gwyllt eto, ond neithiwr aeth fi a'r wraig i weld Caryl yn Maes-C. O'n i'n sceptical cyn mynd (Catrin sy'n ffan) ond chwarae teg roedd hi'n noson dda.

Mae Caryl yn sicr yn gallu wailio, a roedd y band efo hi'n brofiadol, ac yn chwarae yn dyn iawn.

Ond y downar mwy oedd bod rhaid i'r perfformio orffen am 10.00 ohrewydd bod 'na rhyw fastad sych o dwrna' sy'n byw yn gyfagos wedi bygwth achos llys os bydd swn ar ôl hyn. Mae'n debyg bod rhain wedi creu gryn drafferth pan gododd y syniad o osod y maes carafannau ble mae o, ac annodd ydi peidio a rhagdybio mai c*nt gwrth Gymreig ydi o.

Ta waeth, dwi ffansi sesh erbyn diwedd yr wythnos, ac ella fydd 'na gyfle i fynd am beint ar yôl y blog.gwrdd/eisteddfod06. I ddeud y gwir, be am wneud o'n rhan o'r cyfarfod? Trafodaeth a sgwrs, yna i'r bar am fwy o sgwrsio a thrafodaethu. Gem?

Termau newydd

Dwi wrthi'n cyfieithu darn o feddalwedd côd agored yn y gwaith, a dwi'n meddwl mod i wedi bathu term newydd.

Tra'n ystyried 'Spam Protection' meddyliais am y term yma:
Sbamddiffyn


Be 'da chi'n feddwl? Oes 'na rhywun 'di clywad o o'r blaen? Dwi wedi gwglio a daeth dim i fyny.

Os na: Sbamddiffyn©Mei Gwilym 2006.

Gol: 19:05 - Sbamddifyn. Diolch Nwdls!

Teipograffeg

In short: Comic Sans will turn anything that doesn’t contain the word "banana" or "lemonade" into a farce.


meddai Joen ar ei flog, a dwi'n cytuno pob gair.

Yn hwyrach yn y sylwadau ar y dudalen hon darganfyddais ddolen i'r cheat sheet (taflen dwyll?) yma ar ffonts da. Dwi wedi'i brintio allan a mae o ar y wal wrth fy nesg rwan. Dwi'n gobeithio wneith eraill yn y swyddfa sylwi arno a rhoi diwedd ar ddefnyddio Comic Sans yn eu dogfennau.

Haili recomended.

Llywelyn ap Gruffudd Fychan

Casgliad o luniau gret gan Gasyth o'r gofgolofn i Llywelyn ap Gruffudd Fychan.

Dwi eto i fynd i weld y gofgolofn fy hun, ond dwi'n disgwyl ymlaen i'r diwrnod.

Geekend yn y 'Steddfod

Mae maeswyr diwyd wedi trefnu blog gwrdd yn yr Eisteddfod.

Dwi'n bwriadu mynd, felly welai chi yna.

Poster Blog Gwrdd

eisteddfod06